Nodiadau ar 3ydd Cyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar Gyfathrebu Digidol

 

Dydd Mawrth 5 Tachwedd 2013

 

Cadeirydd: Russell George AC

 

Yr Aelodau a oedd yn bresennol:

 

Alun Ffred Jones AC (Arfon)

Andrew RT Davies AC (Canol De Cymru):

Antoinette Sandbach AC (Gogledd Cymru)

Elin Jones AC (Ceredigion)

Mark Isherwood AC (Gogledd Cymru)

Mohammad Asghar AC (Dwyrain De Cymru):

Rhodri Glyn Thomas AC (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)

 

Cynrychiolwyr o:

 

Arqiva

BT

Cyngor Caerdydd

Gary Thompson (Ymgynghorydd)

Ofcom

Pwyllgor Cynghori Ofcom yng Nghymru

Swyddfa Huw Lewis AC

Swyddfa Russell George AC

Swyddfa Suzy Davies AC

Spectrum Internet

 

Ymddiheuriadau:

 

David Rees AC (Aberafan)

Aled Roberts AC (Gogledd Cymru)

Bethan Jenkins AC (Gorllewin De Cymru)

Suzy Davies AC (Gorllewin De Cymru)

Simon Thomas AC (Canolbarth a Gorllewin Cymru):

David Melding AC (Canol De Cymru)

Janet Finch-Saunders AC (Aberconwy)

 

 

Dechreuodd Russell George AC (y Cadeirydd) y cyfarfod a chroesawodd yr aelodau a oedd yn bresennol. Cadarnhaodd y Cadeirydd, yn dilyn argymhellion a gafwyd yn yr adroddiad i’r Cynulliad ar Lobïo a Grwpiau Trawsbleidiol, y byddai’r Grŵp Trawsbleidiol ar Gyfathrebu Digidol yn nodi ei gyfansoddiad yn ffurfiol ac yn cynnal Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ym mis Ionawr 2014. Yn y cyfamser, cafodd Russell George AC ei ethol fel Cadeirydd a chytunwyd y byddai Ofcom yn darparu gwasanaeth ysgrifenyddiaeth i’r Grŵp.

 

Croesawodd y Cadeirydd y cynrychiolwyr o Arqiva, a aeth ati i ddarparu trosolwg o’r Prosiect Seilwaith Ffonau Symudol, sef prosiect gwerth £150 miliwn Llywodraeth y DU, a gynlluniwyd i gynyddu signal ffonau symudol yn yr ardaloedd hynny sy’n fannau gwan o ran cael gwasanaeth ffôn symudol.

 

Amcanion penodol y prosiect yw:

 

·         cefnogi twf economaidd yn y DU, gan gynnwys yn yr ardaloedd gwledig

·         gwella  signal ac ansawdd gwasanaethau rhwydwaith symudol, ar gyfer defnyddwyr a busnesau sy’n byw ac yn gweithio mewn ardaloedd yn y DU lle mae’r signal ffôn symudol yn wael ar hyn o bryd, neu lle nad oes signal o gwbl.

 

Y nod yw mynd i’r afael â signal llais symudol mewn cynifer â phosibl o’r 60,000 lleoliad sydd wedi’u nodi fel rhai sy’n dioddef o bosibl, a gwella signal “ar y lôn” ar 10 o ffyrdd rhif A allweddol, gan gynnwys yr A470 yng Nghymru.  

 

Ym mis Mai 2013, dewisodd yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Arqiva fel y cwmni a fydd yn darparu’r prosiect yn dilyn proses o gynigion cystadleuol.

 

Fel rhan o’i Gynllun Gweithredu Cenedlaethol parhaus, mae Arqiva wedi cyhoeddi’n ddiweddar y bydd rhannau mawr o Ganolbarth Cymru ymhlith yr ardaloedd cyntaf yn y DU i elwa yng Ngham 1 y prosiect (sydd wedi’u lliwio’n goch ar y map isod) gyda Gogledd Cymru yng Ngham 2, rhannau o Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin yng Ngham 3 a Gŵyr a Merthyr Tudful a Rhymni yng Ngham 4. Dylai’r cyntaf o’r safleoedd newydd fynd yn “fyw" yn y dyfodol agos.

 

Mae safleoedd enwol wedi’u nodi yn yr etholaethau a ganlyn: Aberconwy, Arfon, Brycheiniog a Sir Faesyfed, Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, Ceredigion, De Clwyd, Gorllewin Clwyd, Dwyfor Meirionnydd, Gŵyr, Merthyr Tudful a Rhymni, Mynwy, Sir Drefaldwyn, Preseli Sir Benfro ac Ynys Môn.

 

Y safleoedd hyn sydd â’r gobaith gorau ar gyfer cyflawni’r prosiect o fewn yr amserlen a’r gyllideb berthnasol, ond, cyn adeiladu’r safleoedd, rhaid i bob un o’r pedwar gweithredydd rhwydwaith ffonau symudol, ynghyd â’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon gytuno ar y safle, ac ateb nifer o feini prawf o ran y safle - sef pŵer, cysylltiadau ategol, mynediad a rhentu.

 

Bydd pob Gweithredydd Rhwydwaith Ffonau Symudol yn defnyddio’r seilwaith newydd pan gaiff ei adeiladu. Bydd Arqiva yn berchen ar y safleoedd a’r seilwaith sefydlog ac yn eu rheoli, ond bydd y gweithredwyr yn gyfrifol am eu hoffer gweithredol (h.y. eu gorsafoedd yn y lleoliadau a’r antenau) ac am y gwasanaeth a gaiff y defnyddiwr yn y pen draw.

 

 

 

Camau y cytunwyd arnynt

 

Cyfeiriodd Gary Thompson (Ymgynghorydd Darlledu) ac Ian Clarke (Cadeirydd Pwyllgor Cynghori Ofcom yng Nghymru) at y mater o drawsrwydweithio signalau symudol gorfodol, ac argymhellwyd bod y Grŵp Trawsbleidiol yn cyflwyno ei sylwadau i Ofcom er mwyn ei annog i beri bod trawsrwydweithio’n orfodol ar gyfer pob gweithredydd, fel modd o roi sylw i unrhyw ardal sy’n fan gwan o ran cael gwasanaeth ffonau symudol, neu’n ardal sy’n cael gwasanaeth rhannol, hyd yn oed yn dilyn rhoi’r Prosiect Seilwaith Ffonau Symudol ar waith. Cam i’w gymryd - Y Grŵp i ysgrifennu at Ofcom.

 

Gofynnodd Andrew R.T. Davies AC (Canol De Cymru) ac Elin Jones AC (Ceredigion) pam nad oedd y cynllun i roi’r prosiect ar waith ar gael i’r cyhoedd ei weld, er mwyn caniatáu i Aelodau’r Cynulliad a Llywodraeth Cymru wneud cynlluniau wrth gefn. 

 

Pwysleisiodd Arqiva bod yn rhaid i bob un o’r pedwar gweithredydd rhwydwaith ffonau symudol a’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon gytuno ar y safleoedd enwol. 

 

Ymhellach, awgrymodd Elin Jones AC (Ceredigion) y dylai Arqiva weithio gydag Aelodau’r Cynulliad fel bod modd i’r Aelodau fod yn eiriolwyr yn eu hawdurdodau cynllunio lleol, i hwyluso’r gwaith o ymestyn y seilwaith sy’n ofynnol. Cam gweithredu - Arqiva i gydweithio ag Aelodau’r Cynulliad a rhannu’r cynllun gweithredu enwol.

 

Cam gweithredu –  Y Grŵp Trawsbleidiol i ysgrifennu at y Gweinidog Menter, Busnes, Technoleg a Gwyddoniaeth yn Llywodraeth Cymru i annog y Llywodraeth i ystyried “Cynllun Cymorth Ffonau Symudol” i gynorthwyo’r ardaloedd hynny nad ydynt wedi’u cynnwys yn y Prosiect Seilwaith Ffonau Symudol.